Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 18 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 16:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies Christine Chapman |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Merfyn Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dr Lyndon Miles, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Keith McDonogh, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Grace Lewis-Parry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Dr Ruth Hussey, Chief Medical Officer Martin Sollis, Deputy Director of Finance |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies ar gyfer eitemau 2 i 4. Dirprwyodd Christine Chapman ar ei rhan nes iddi gyrraedd.
2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Merfyn Jones, Cadeirydd sy'n Ymadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Dr Lyndon Miles, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Grace Lewis-Parry, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu ac Ysgrifennydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Keith McDonogh, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.
Camau gweithredu:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth am y categoriau a swm yr ad-daliadau a wnaed i Awdurdodau Iechyd ar draws y ffin.
· Rhagor o wybodaeth am nifer y cleifion yr effeithiwyd arnynt gan yr oedi o ran y trinidiaethau etholedig a berwyd gan y rheolaethau gwariant argyfwng yn ystod wythnosau diwethaf blwyddyn ariannol 2012-13.
· Nodyn ynghylch pryd y daeth y Bwrdd a'r Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r pryderon ynghylch yr achosion o C Difficile.
· Copi o gofrestr risg y Bwrdd Iechyd.
· Rhagor o wybodaeth am y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael a ffigurau'r Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
4 Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
5 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
5.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru; a Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru.
5.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.
Camau gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Manylion cost adroddiad Chris Hurst.
· Y dyddiad pan adawodd Chris Hurst Lywodraeth Cymru.
· Nodyn ar y broses ar gyfer cynnydd yn y pryderon ynghylch Byrddau Iechyd.
· Y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adroddiad a luniwyd gan Allegra.
· Nodyn ar wariant gwarchod cyflogau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
· Eglurder ynghylch capasiti craidd a'r effaith a gafodd hyn ar ofal wedi'i drefnu.
6 Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
7 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Tystiolaeth gan Brif Weithredwr sy'n Ymadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
7.1 Yn fuan cyn i'r cyfarfod ddechrau, hysbysodd Mary Burrows, Prif Weithredwr sy'n Ymadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Pwyllgor na fyddai'n gallu dod i'r cyfarfod.
7.2 Rhoddodd Mary Burrows dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor a chynigiodd i ateb unrhyw gwestiynau pellach yn ysgrifenedig.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
8.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
9 Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr